02 Chwefror 2022
Mae pobl Gwynedd ac Ynys Môn yn cael eu hannog i gymryd rhan mewn ymgynghoriad cyhoeddus ar ddogfennau drafft sy’n amlinellu’r prif faterion fydd angen sylw mewn cymunedau ar draws y ddwy sir.
Mae Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd a Môn - sy’n cynnwys y ddau gyngor sir, Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a Chyfoeth Naturiol Cymru - wedi rhannu'r ddwy sir yn 14 o ardaloedd llai ar gyfer Asesiad o Lesiant Lleol. Mae gwaith ymchwil manwl wedi ei gynnal ar bob un o'r 14 ardal er mwyn deall a dysgu mwy am lesiant yr ardaloedd hynny.
Yn ogystal â’r data sydd wedi ei gasglu, mae partneriaid y Bwrdd wedi ymgysylltu’n helaeth yn ystod y misoedd diwethaf. Y prif ddarn o waith yng Ngwynedd yw ymarferiad ‘Ardal Ni 2035’ lle mae grwpiau, mudiadau a chynghorau lleol wedi adnabod blaenoriaethau posib fydd angen sylw dros y 10-15 mlynedd nesaf. Ym Môn, cafodd holiadur cyhoeddus ei gylchredeg oedd yn gofyn i drigolion ddweud beth oeddent yn ei hoffi am eu hardal a beth oeddent am ei wella.
Bwriad Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd a Môn yw defnyddio casgliadau’r gwaith ymchwil ac ymgysylltu yma i greu cynllun llesiant ar gyfer y ddwy sir, er mwyn cyflawni gwelliannau a fydd yn sicrhau’r dyfodol gorau posib i gymunedau yn unol â disgwyliadau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru).
Meddai Emyr Williams o Barc Cenedlaethol Eryri, Cadeirydd Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd a Môn:
“Ein nod fel Bwrdd ydi sicrhau bod darparwyr gwasanaethau cyhoeddus ar draws y ddwy sir yn cydweithio i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau trigolion Gwynedd ac Ynys Môn.
“Nod yr asesiadau llesiant yw edrych mewn manylder ar y materion economaidd, cymdeithasol, diwylliannol ac amgylcheddol hynny sy’n berthnasol i holl gymunedau’r ardal.
“Er mwyn sicrhau ein bod ar y trywydd cywir, rydym yn awyddus i gael barn pobl ar y dogfennau drafft lleol cyn cyhoeddi’r fersiynau terfynol o’r asesiadau ym mis Mai.
“Fwy na dim, rydym am wybod os yw trigolion yn teimlo bod yr wybodaeth rydym wedi ei gasglu a’i gynnwys yn adlewyrchiad teg o’u cymunedau, neu os oes unrhyw wybodaeth allweddol ar goll.
“Ar ddiwedd yr ymgynghoriad byddwn yn defnyddio’r holl wybodaeth ac ymatebion yr ydym wedi ei gasglu i greu cynllun llesiant fydd yn llywio gwaith y Bwrdd am y pum mlynedd nesaf.”
Mae’r ymgynghoriad ar agor tan 15 Mawrth 2022 a gellir darllen y dogfennau drafft a llenwi holiadur byr drwy ymweld a www.LlesiantGwyneddaMon.org/cy/
Mae copïau papur hefyd ar gael yn llyfrgelloedd Gwynedd a Môn.