25 Tachwedd 2016
Mae Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd a Môn yn gofyn i bobl leol pam maen nhw yn hoffi’r ardal y maen nhw’n byw ynddi mewn ymgynghoriad sy’n cael ei gynnal ar hyn o bryd. Mae cyfle hefyd iddynt ddweud eu dweud am yr hyn sydd angen ei wella am yr ardal.
Mae ail gyfres o sesiynau galw heibio yn cael ei chynnal yn ardal Meirionnydd ble gall trigolion gyfrannu at yr ymgynghoriad i helpu darparwyr gwasanaethau cyhoeddus gynllunio i’r dyfodol. Yn ogystal â galw i mewn i un o’r sesiynau mae’n bosib cwblhau holiadur ar-lein yn www.LlesiantGwyneddaMon.org/cy/.
Ffurfiwyd Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd a Môn yn ddiweddar yn dilyn pasio Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) a ddaeth i rym ar y 1af o Ebrill 2016. Mae’r Bwrdd yn bartneriaeth sy’n cynnwys y cynghorau sir, y gwasanaeth tân ac achub, gwasanaeth iechyd a Chyfoeth Naturiol Cymru.
Mae’r ddeddf newydd am sicrhau bod gwasanaethau cyhoeddus yn gweithio efo’i gilydd i wella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol cymunedau ar draws Cymru.
Ffion Johnson, yw cadeirydd y Bwrdd yng Ngwynedd a Môn, dywedodd: “Byddwn yn annog trigolion yr ardal i wneud yn fawr o’r cyfle yma i gyfrannu at yr ymgynghoriad. Bydd yn rhoi darlun gwell i ni o beth sy’n bwysig i bobl a beth fyddent yn hoffi weld yn cael ei wella. Mae’n gyfle go iawn i bobl ddylanwadu ar ddyfodol gwasanaethau cyhoeddus.”
Mae’r sesiynau glaw heibio yn cael eu cynnal yn y lleoliadau canlynol:
29.11.16 |
2-4pm |
Benllech: Neuadd Goffa Goronwy Owen |
29.11.16 |
7-9pm |
Amlwch: Memorial Hall |
30.11.16 |
2-4pm |
Newborough: Eglwys Bach Community Hall |
30.11.16 |
7-9pm |
Aberffraw: Village Hall |
01.12.16 |
2-4pm |
Menai Bridge: Thomas Telford Community Centre |
01.12.16 |
7-9pm |
Beaumaris: Iorwerth Rowlands Centre |
Mae’r cyfnod ymgynghori yn rhedeg tan y 31 o Ragfyr 2016. Bydd yr adborth sydd wedi ei gasglu o’r gwahanol ardaloedd yn rhoi darlun i’r Bwrdd o gyflwr cymunedau, eu blaenoriaethau a sut y gall partneriaid gyd-weithio i gynllunio gwasanaethau.
Mae mwy o wybodaeth ar gael ar dudalennau cyfryngau cymdeithasol y Bwrdd: www.facebook.com/LlesiantGwynedd&MonWell-being a www.Twitter.com/LlesiantGaM.
Gwybodaeth i olygyddion
Aelodau statudol Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd a Môn yw Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Cyngor Gwynedd, Cyngor Sir Ynys Môn, Cyfoeth Naturiol Cymru, Gwasanaeth Tan ac Achub Gogledd Cymru.