Amdanom Ni
Pwrpas y Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus yw gwella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol eu hardaloedd trwy gryfhau cydweithio ar draws yr holl wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.
Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn sefydlu Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus statudol sydd wedi disodli'r Byrddau Gwasanaethau Lleol. Bydd pob bwrdd yn:
- Cyflwr asesu llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol ei ardal
- Gosod amcanion sydd wedi'u llunio i sicrhau bod y Byrddau'n gwneud y cyfraniad mwyaf posibl i lesiant lleol
Mae'n rhaid i bob Bwrdd baratoi a chyhoeddi cynllun sy'n nodi ei amcanion a'r camau y bydd yn eu cymryd i gyrraedd yr amcanion – dyma'r Cynllun Llesiant Lleol. Mae'n rhaid i'r Bwrdd ymgynghori yn eang wrth ddatblygu'r cynllun hwn.
Bydd pob Bwrdd yn adolygu'i gynllun yn flynyddol gan ddangos ei gynnydd.
Aelodaeth
Aelodau statudol pob Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yw:
- Yr Awdurdodau Lleol
- Y Bwrdd Iechyd Lleol
- Yr Awdurdod Tân ac Achub
- Cyfoeth Naturiol Cymru
Yn ogystal â'r aelodau statudol, bydd pob Bwrdd yn gwahodd y bobl ganlynol i gymryd rhan:
- Gweinidogion Cymru
- Prif Gwnstabliaid
- Y Comisiynydd Heddlu a Throseddu
- Gwasanaethau Prawf Penodol
- O leiaf un corff sy'n cynrychioli sefydliadau gwirfoddol perthnasol
Bydd y Byrddau hefyd yn gallu gwahodd sefydliadau gwasanaethau cyhoeddus eraill i gymryd rhan.
Yma, yng Ngwynedd a Môn, rydym wedi gwahodd cynrychiolaeth o Awdurdod y Parc Cenedlaethol Lleol, Iechyd Cyhoeddus Cymru, y sector dai a'r sectorau addysg bellach ac uwch.
Yr Athro Andrew C Edwards, Dirprwy i'r Is-ganghellor, Prifysgol Bangor yw Cadeirydd presennol Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd a Môn, gyda'r Cynghorydd Gary Pritchard, Arweinydd Cyngor Sir Ynys Môn yn Ddirprwy Gadeirydd
Dyma restr o aelodau presennol Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd a Môn:
Statudol
Nia Wyn Jeffreys (Y Cynghorydd)
Cyngor Gwynedd
Arweinydd Cyngor Gwynedd
Gwadd
Bethan Russell Williams (Cynrychiolydd y 3ydd sector)
Mantell Gwynedd
Prif Swyddog
Lyndsey Campbell-Williams (Cynrychiolydd y 3ydd Sector)
Medrwn Môn
Prif Swyddog