Adroddiad Cenedlaethau'r Dyfodol 2025
Mwy
30 Ebrill 2025
Mewn digwyddiad arbennig yng Nghaerdydd i ddathlu 10 mlynedd ers y lansio'r Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, cyhoeddodd Derek Walker, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru ei Adroddiad Cenedlaethau’r Dyfodol 2025. Mae'r adroddiad yn herio 'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau i feddwl yn wahanol am sut i wireddu amcanion Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol er mwyn sicrhau dyfodol gwell ar gyfer y genhedlaeth nesaf.
Sefydliadau Cyhoeddus Gwynedd a Môn yn ymrwymo i deithio llesol
Mwy
13 Mawrth 2025
Llongyfarchiadau fil i 6 aelod o Fwrdd Gwasanaethu Cyhoeddus Gwynedd a Môn am gyd-arwyddo’r Siarter Teithio Llesol ddydd Iau, Mawrth 13eg yng Nghanolfan Fusnes Ynys Môn, Llangefni a hynny ym mhresenoldeb Ken Skates, Ysgrifennydd Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru. Cam cyntaf enfawr wedi’i gwblhau. Ymlaen â ni i gydweithio ar y 15 cam gweithredu gyda’n gilydd!
Blaenoriaethau 2023-25 y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus
Mwy
05 Awst 2024
Mae Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd a Môn wedi gosod allan ei raglen waith ar gyfer 2023-25 fydd yn mynd i'r afael a'r tri amcan llesiant (Tlodi, Plant a Phobl Ifanc a Newid Hinsawdd) yn ogystal â'r flaenoriaeth Iaith Gymraeg