Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 wedi creu Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus ar gyfer pob ardal awdurdod lleol yng Nghymru er mwyn sicrhau bod cyrff cyhoeddus yn gweithio gyda’i gilydd i greu gwell dyfodol i bobl Cymru.
Ar gyfer Gwynedd a Môn mae'r Bwrdd wedi rhannu'r ddwy sir yn 14 ardaloedd llai. Bob pum mlynedd mae asesiad o lesiant lleol yn cael ei gyhoeddi ac yn cynnwys gwaith ymchwil manwl ar faterion economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol.
Yn dilyn cyfnod o gasglu data ac ymgynghori, rydym wedi cyhoeddi ein Asesiadau Llesiant ar gyfer 2022. Gallwch ddarllen y dogfennau yma:
Byddwn yn defnyddio’r holl wybodaeth ac ymatebion yr ydym wedi ei gasglu yn yr Asesiad i greu cynllun llesiant newydd fydd yn llywio gwaith y Bwrdd am y pum mlynedd nesaf.
Dyma ein Cynllun Llesiant ar gyfer 2023-2028
Dilynwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol am y newyddion diweddaraf
03 Tachwedd 2023
Dyma gyflwyno adroddiad blynyddol Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus (BGC) Gwynedd a Môn ar gyfer 2022-23. Y flwyddyn hon oedd blwyddyn olaf ein Cynllun Llesiant 2018-23
24 Hydref 2023
Mae gwasanaethau cyhoeddus ar draws Gwynedd a Môn wedi dod at ei gilydd gyda’r addewid o gydweithio i liniaru effaith tlodi; buddsoddi yn nyfodol pobl ifanc; a gweithredu dros yr amgylchedd ymysg materion eraill.
20 Rhagfyr 2022
Mae cyfnod cynllun llesiant presennol y Bwrdd yn dod i ben, ac rydym yn awyddus clywed eich barn chi ar ein cynllun llesiant drafft ar gyfer y bum mlynedd nesaf. Mae ymgynghoriad ymlaen gennym hyd nes 6ed Mawrth, 2023.