Cyhoeddi Cynllun Llesiant Gwynedd a Môn 2023-28

24 Hydref 2023

Mae gwasanaethau cyhoeddus ar draws Gwynedd a Môn wedi dod at ei gilydd gyda’r addewid o gydweithio i liniaru effaith tlodi; buddsoddi yn nyfodol pobl ifanc; a gweithredu dros yr amgylchedd ymysg materion eraill.

Lansiwyd Cynllun Llesiant Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd a Môn 2023-28 ym mhabell Cyngor Gwynedd ar Faes Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd ym mis Awst, a bydd partneriaid ar y bwrdd nawr yn bwrw mlaen gyda cynlluniau cyffroes i wireddu’r uchelgais hon. 

Mae Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd a Môn yn cynnwys y ddau Gyngor Sir, Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Cyfoeth Naturiol Cymru, Prifysgol Bangor, Parc Cenedlaethol Eryri a nifer o fudiadau eraill. 

Mae’r cynllun – a’r blaenoriaethau sydd wedi eu hadnabod – yn dilyn ymgynghoriad eang ar y cynllun llesiant drafft a gynhaliwyd yn gynharach eleni. Mae’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus wedi cytuno ar dri amcan llesiant sy’n adlewyrchu’r negeseuon a’r adborth dderbyniwyd, sef:

• Rydym am weithio gyda’n gilydd i liniaru effaith tlodi ar lesiant ein cymunedau. 

• Rydym am weithio gyda’n gilydd i wella lles a llwyddiant ein plant a phobl ifanc er mwyn gwireddu eu llawn botensial. 

• Rydym am weithio gyda’n gilydd i gefnogi ein gwasanaethau a’n cymunedau i symud tuag at Sero Net Carbon.

Yn ystod y lansiad ar Faes y Brifwyl, cafwyd chyfraniadau gan Gadeirydd y Bwrdd, Aled Jones-Griffith, Pennaeth Coleg Menai a Choleg Meirion Dwyfor ynghyd â Jacob Ellis o Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol; y Cynghorydd Llinos Medi, Arweinydd Cyngor Sir Ynys Môn; y Cynghorydd Nia Jeffreys, Dirprwy Arweinydd Cyngor Gwynedd; a Dafydd Gwynne o Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

Meddai Aled Jones-Griffith, Cadeirydd Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd a Môn:

“Mae gennym weledigaeth fel Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus i weithio gyda’n gilydd i sicrhau bod ein cymunedau yn ffynnu ac yn llewyrchus i’r hir dymor. Nod y Cynllun Llesiant yw gosod allan sut yr ydym am gyflawni hyn a gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau trigolion Gwynedd a Môn. 

“Mae’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn gyfle i rannu ymarfer da, hyrwyddo’r iaith a sicrhau bod gan drigolion y ddwy sir fynediad i holl wasanaethau cyhoeddus drwy gyfrwng y Gymraeg. 

“Dros yr wythnosau diwethaf rydym wedi bod yn brysur yn cydweithio ar gynlluniau cyflawni ar gyfer y tri amcan i gyflawni uchelgais cyffredin ar gyfer yr ardal gyfan. 

“Diolch i bawb sydd wedi cyfrannu at y broses hyd yma ac edrychwn ymlaen i ail ymgysylltu gyda’r mudiadau a’r unigolion fu’n cymryd rhan yn yr ymgynghoriad, yn ogystal â phobl o’r newydd, i sicrhau ein bod yn gwneud gwir wahaniaeth i lesiant trigolion y ddwy sir.”

Mae copi o’r Cynllun Llesiant ar gael ar wefan y Bwrdd. www.llesiantgwyneddamon.org 

Os am gopi papur trwy’r post neu mewn fformat amgen cysylltwch gyda [email protected] neu 01766 771000

Yn ôl i Newyddion

Dilynwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol am y newyddion diweddaraf

 

Anfon e-bost... Arhoswch...