Asesiad Llesiant ar gyfer Gwynedd a Môn

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 wedi creu Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus ar gyfer pob ardal awdurdod lleol yng Nghymru er mwyn sicrhau bod cyrff cyhoeddus yn gweithio gyda’i  gilydd i greu gwell dyfodol i bobl Cymru.

Ar gyfer Gwynedd a Môn mae'r Bwrdd wedi rhannu'r ddwy sir yn 14 ardaloedd llai. Bob pum mlynedd mae asesiad o lesiant lleol yn cael ei gyhoeddi ac yn cynnwys gwaith ymchwil manwl ar faterion economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol.

Yn dilyn cyfnod o gasglu data ac ymgynghori, rydym wedi cyhoeddi ein Asesiadau Llesiant ar gyfer 2022. Gallwch ddarllen y dogfennau yma: 

Asesiadau Llesiant 

Beth yw’r camau nesaf?

Byddwn yn defnyddio’r holl wybodaeth ac ymatebion yr ydym wedi ei gasglu yn yr Asesiad i greu cynllun llesiant newydd fydd yn llywio gwaith y Bwrdd am y pum mlynedd nesaf.

Dyma ein Cynllun Llesiant ar gyfer 2023-2028

Dilynwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol am y newyddion diweddaraf

Newyddion Diweddaraf

Adroddiad Blynyddol 2022/23 Mwy

03 Tachwedd 2023

Dyma gyflwyno adroddiad blynyddol Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus (BGC) Gwynedd a Môn ar gyfer 2022-23. Y flwyddyn hon oedd blwyddyn olaf ein Cynllun Llesiant 2018-23

Cyhoeddi Cynllun Llesiant Gwynedd a Môn 2023-28 Mwy

24 Hydref 2023

Mae gwasanaethau cyhoeddus ar draws Gwynedd a Môn wedi dod at ei gilydd gyda’r addewid o gydweithio i liniaru effaith tlodi; buddsoddi yn nyfodol pobl ifanc; a gweithredu dros yr amgylchedd ymysg materion eraill.

Cynllun Llesiant Gwynedd a Môn 2023 - Cyfle i ddweud eich dweud Mwy

20 Rhagfyr 2022

Mae cyfnod cynllun llesiant presennol y Bwrdd yn dod i ben, ac rydym yn awyddus clywed eich barn chi ar ein cynllun llesiant drafft ar gyfer y bum mlynedd nesaf. Mae ymgynghoriad ymlaen gennym hyd nes 6ed Mawrth, 2023.

 

Anfon e-bost... Arhoswch...